Ydych chi'n barod i drawsnewid eich bywyd trwy fyfyrdod?
Ymunwch â ni ar ein cwrs myfyrdod cyntaf erioed ar-lein yn y Gymraeg – taith 28 diwrnod wedi’i chynllunio i leddfu straen, cynyddu tawelwch mewnol, a gwella eich lles.
Mae’r cwrs yn addas i bawb, ni waeth eich lefel profiad. Nid oes angen profiad blaenorol mewn myfyrdod – bydd Siôn Jones, arbenigwr myfyrdod ac athro gyda mwy na 7 mlynedd o brofiad, yn eich arwain bob cam o’r ffordd.
Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys dwy ran bonws: un myfyrdod arbennig ar gyfer cwsg gwell ac un fersiwn Saesneg o’r cwrs – yr un cynnwys, mewn iaith arall.
Beth am roi hwb i’ch iechyd a’ch lles heddiw? Dim ond 15 munud y dydd sydd ei angen i ddechrau teimlo’r gwahaniaeth!
Cofrestrwch nawr i ddechrau ar eich taith i fywyd tawelach ac hapusach.
Cwricwlwm y Cwrs
Wythnos 1 - Ymlacio'r meddwl
Mae Wythnos 1 yn ymwneud â thawelu eich meddwl. Byddwn yn gwneud myfyrdodau dyddiol hawdd i'ch helpu i gael gwared ar straen a dod o hyd i ychydig o heddwch.
Wythnos 2 - Dod o hyd i heddwch
Paratowch i fynd yn ddyfnach yn Wythnos 2 wrth i ni archwilio sut i "Ddod o Hyd i Heddwch." Byddwn yn ei gadw'n syml gyda myfyrdod cyfrif anadl.
Wythnos 3 - Goresgyn straen a phryder
Yn Wythnos 3, rydym yn mynd i'r afael â straen a phryder yn uniongyrchol. Gan ddefnyddio offer a gefnogir gan wyddoniaeth, byddwn yn archwilio technegau ymarferol i'ch helpu i oresgyn straen a phryder. Dim jargon, dim ond strategaethau bywyd go iawn i dorri'n rhydd o afael straen.
Wythnos 4 - Meddwlgarwch mewn bywyd pob dydd
Yn ein hwythnos olaf, rydyn ni'n dod â'r cyfan at ei gilydd gydag "Meddwlgarwch mewn bywyd dyddiol." Byddwn yn cymryd yr arferion meddwlgarwch rydych chi wedi'u dysgu a'u cymhwyso i'ch routine dyddiol.
Bonws - Ioga Nidra ar gyfer cwsg
Byddwch hefyd yn derbyn yr adran bonws hon ar Yoga Nidra, a elwir hefyd yn "Sleep Yoga". Mae hyn yn cynnwys set o yoga nidras a ddewiswyd yn arbennig ac sydd wedi'u cynllunio i'ch arwain i noson braf o gwsg.
Bonws - Fersiwn Saesneg o'r cwrs
Hefyd fel bonws fydd fersiwn Saesneg ar gael o'r cwrs i chi, werth £28.
Eich hyfforddwr
Mae Siôn Jones yn hyfforddwr ac athro meddwlgawrch (mindfulness) yn wreiddiol o Aberystwyth. Gydag angerdd am ioga ac meddwlgarwrch, mae Siôn wedi bod yn helpu unigolion i oresgyn pryder a thrawsnewid eu bywydau am dros 7 mlynedd nawr. O ymddangosiadau teledu a radio byw ar y BBC ac S4C i encilion yoga ac meddwlgarwch blaenllaw ar draws y DU ac Ewrop, mae Siôn yn arbenigwr go iawn yn y maes. P'un a ydych chi'n ceisio tyfu yn bersonol, dod o hud i heddwch mewnol, neu cael golwg mwy ddisglair ar fywyd, bydd Siôn yn eich arwain ar daith o hunan-ddarganfyddiad.
Cwestiynau Cyffredin
Pryd mae'r cwrs yn dechrau?
Mae'r gwrs yma yn gwrs hunan astudio felly mae'r cwrs yn dechrau bynnag yr ydych yn prynu'r cwrs. Bydd angen 15 munud y dydd i ymarfer y myfyrdodau, mae modd i chi neud hyn yn eich amser eich hun felly pryd bynnag sy'n gyfleus i chi.
Faint o amser sydd angen arnaf i wneud y cwrs?
Dim ond 15 munud y dydd yw'r myfyrdodau. Mae opsiynau i fyfyrio am hirach os dymunwch, ond nid yw hyn yn angenrheidiol.
Oes angen profiad mewn myfyrdod arnaf i wneud y rhaglen hon?
Na, nid oes angen profiad arnoch i wneud y rhaglen. Fe'i cynlluniwyd i'ch cyflwyno'n araf i'r arferion fel y gallwch ddechrau eu cynnwys yn eich bywyd bob dydd.
Ydy'r cwrs yn addas ar gyfer dysgwyr?
Gan fod yr iaith yn weddol syml, ydy mae'r cwrs yn addas ar gyfer dysgwyr. Os hoffech mwy o fanylion ynglyn a hyn anfonwch neges ataf.
Beth mae'r Pecyn Aur yn ei gynnwys?
Yn y Pecyn Aur, nid yn unig y byddwch chi'n cofrestru ar gyfer y rhaglen fyfyrio - rydych chi hefyd yn derbyn pedair sesiwn 1-1 50 munud unigryw gyda Siôn. Wedi'u teilwra i'ch anghenion, mae'r sesiynau hyn yn darparu arweiniad personol a myfyrdodau unigryw, gan sicrhau eich bod ar y llwybr cywir. Gellir archebu'r sesiynau hyn ar amser sy'n gyfleus i chi.
Beth sy'n digwydd ar ddiwedd y 28 diwrnod?
Er bod y rhaglen wedi'i chynllunio i'w chwblhau dros 28 diwrnod, byddwch yn cael mynediad gydol oes iddi. Felly gallwch chi gwblhau'r rhaglen ar eich cyflymder eich hun. Mae'n cael ei diweddaru bedair gwaith y flwyddyn gyda myfyrdodau newydd. Mae'r rhaglen hefyd wedi'i chynllunio i roi'r offer angenrheidiol i chi barhau â'r broses ar eich pen eich hun unwaith y daw'r 28 diwrnod i ben.
Siôn ar S4C
Gwyliwch Sion yn siarad am ei brofiadau yn Yr India, ei ddysgeidiaeth o yoga a meddwlgarwch, yn ogystal â rhai awgrymiadau da ar sut i leddfu straen yn eich bywyd bob dydd.